Prif Switsfwrdd / Main Switchboard: 01492 574000    www.conwy.gov.uk

 

 
 

 

 

 


abcde

 

 

 

 

Gwella a Datblygu Corfforaethol / Corporate Improvement & Development

 

 

 

 

Bodlondeb, CONWY, LL32 8DU

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Clerc y Pwyllgor

Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd, CF99 1NA.

 

 

 

 

 

 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

CELG(4) LGC 01

Ymchwiliad i’r
Cynnydd o ran cydweithio ar lefel llywodraeth leol

Ymateb gan : Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

 

 

 

 

 

Gofynnwch am / Please ask for:

Tim Pritchard

(

01492 576226

:

tim.pritchard @conwy.gov.uk

Ein Cyf / Our Ref:

Sep/CR

Eich Cyf / Your Ref:

 

Dyddiad / Date:

 2 Medi 2013

Annwyl Syr/Fadam

 

Ymchwiliad i'r cynnydd o ran cydweithio ar lefel llywodraeth leol

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn croesawu’r cyfle i ymateb i’r ymchwiliad hwn a manylir ein hymateb isod.

 

1. Trosolwg

 

1.1 Cymeradwyodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Ddatganiad ar Gydweithio yn 2010 sy’n cadarnhau ymrwymiad yr awdurdod i weithio mewn partneriaeth.  Mae’r Datganiad yn cydnabod bod yn rhaid i agwedd Conwy at gydweithio osod gwasanaeth i’r dinesydd yn ganolog yn ei feddwl, ac yn amlinellu’r egwyddorion canlynol i symud rhaglen gydweithio Conwy yn ei blaen:

 

·      Ystyried y canlyniad i’r dinesydd ynghyd â phrif amcan y cynnig;

·      Rhoi’r flaenoriaeth uchaf i ansawdd a chost y gwasanaethau i’n trigolion;

·      Ymdrin â phob syniad am gydweithio gyda meddwl agored;

·      Trafod gyda’n staff, aelodau a rhanddeiliaid priodol wrth i’r prosiect fynd rhagddo;

·      Sicrhau y bydd prosiectau cydweithio yn y dyfodol yn cyd-fynd â’r weledigaeth ranbarthol a’u bod yn gallu ateb gofynion sicrhau budd cyn bwrw ymlaen gyda nhw;

·      Sicrhau fod digon o allu cynhyrchu i gwblhau prosiect cydweithio;

·      Rheoli risg wrth iddynt gael eu canfod.

·      Darparu dull gadael addas.

 

1.2 Mae’r Datganiad ar Gydweithio yn nodi bod gan bob cynllun cydweithio y mae Conwy’n ymwneud â nhw neu’n arwain arnynt;

 

·   Strategaeth ymadael.

·   Yn cyfrannu ar y Cynllun Corfforaethol / canlyniadau Un Conwy gan arwain at well perfformiad a chanlyniadau ar gyfer y dinesydd.

·   Yn glir yn yr hyn maent yn bwriadu ei ddarparu.

·   Yn wydn ac yn gynaliadwy.

·   Yn rheoli adnoddau’n effeithiol.

·   Yn ychwanegu gwerth ac o fudd i Gonwy a’i dinasyddion

·   Strwythurau llywodraethu addas ac yn cael eu craffu’n briodol.

·   System / fframwaith reoli perfformiad clir ac yn rheoli perfformiad yn dda.

·   Cytundeb Cydweithio / Contract / Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn ei le y mae pob partner wedi cytuno iddo.

 

1.3 Mae Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella yn gorchymyn bob Awdurdod Lleol i adrodd ar fendithion cynlluniau cydweithio yn eu Hadroddiad Blynyddol. Gweler www.conwy.gov.uk/atebolrwydd am gopïau o’n hadroddiadau blynyddol a chynnydd ar gydweithio.

 

2. Y graddau y cafodd agenda cydweithio Llywodraeth Cymru ei datblygu mewn awdurdodau lleol

 

2.1Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyfrannu at bob cynllun cydweithio a fanylir yng Nghompact Llywodraeth Cymru, ac wedi adolygu eu cynnydd drwy adroddiadau i’r Uwch Dîm Rheoli / neu’r Byrddau Gwelliant Corfforaethol.  Mae’r prosiectau’n cynnwys:

 

·   Caffael TGCh

·   Adolygiad TAITH

·   Gwasanaethau Cyfreithiol

·   Tai

·   Cefnogi Pobl

·   Purchase2Pay

·   Gwasanaethau Llyfrgell

·   Cynllunio Rhag Argyfwng

·   Gwella Ysgolion Rhanbarthol

·   Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol

 

2.2 Fel rhan o waith parhaus i gefnogi’r Datganiad ar Gydweithio, casglwyd gwybodaeth ar y cynlluniau cydweithio allweddol mae Conwy’n arwain arnynt ac yn rhan ohonynt. Mae’r cynlluniau cydweithio allweddol hyn yn cynnwys:

 

·   Prosiectau Cydweithio Rhanbarthol

·   Prosiectau Cydweithio Is-Ranbarthol

·   Prosiectau a ariannir drwy grant a reolir ar y cyd

·   Cydweithio gweithredol sy’n rhan o ddarpariaeth gwasanaeth

 

2.3 Mae gwaith pellach i gefnogi’r Datganiad ar Gydweithio Conwy yn cynnwys gwaith i grynhoi gwybodaeth am gydweithio mewn ‘Cronfa Ddata Cydweithio’. Mae’r gronfa ddata hon yn dal gwybodaeth ar gynlluniau cydweithio allweddol Conwy yn ogystal â’r rhai sydd wedi derbyn llai o gyhoeddusrwydd. Mae’r gronfa ddata yn cynnwys manylion oddeutu 130 o brosiectau cydweithio y mae Conwy’n rhan ohonynt. O safbwynt y math o gydweithio, mae pob un o’r rheini sydd wedi’u cynnwys naill ai wedi’u hintegreiddio, eu cyd-drefnu neu’n gydweithio.

 

2.4 Mae Conwy hefyd wedi cwblhau blwyddyn olaf cytundeb canlyniadau 3 blynedd gyda Llywodraeth Cymru a oedd angen tystiolaeth o waith ar y cyd.  Rydym wedi ein hysbysu’n ffurfiol fod y cytundeb canlyniadau wedi’i gwblhau’n llwyddiannus.

 

 

 

 

 

3. Y rhwystrau strwythurol, gwleidyddol ac ymarferol i gydweithio llwyddiannus

 

3.1 Mae’r prif rwystrau’n cynnwys:

 

·   Sicrhau nad yw’r trefniadau’n lleihau rheolaeth ddemocrataidd, heb fod yn rhy fiwrocrataidd.

·   Sicrhau bod gwasanaethau sy’n rhan o’r cydweithio yn rai o safon digonol.

·   Sicrhau bod bendithion i holl aelodau’r cynllun cydweithio.

·   Cyflwyno rheolaeth dros y newid a chyfathrebu ardderchog gyda’r holl staff a’r cwsmeriaid sy’n rhan o’r cydweithio.

·   Ar drefniant rhanbarthol, cytuno ar leoliad priodol ar gyfer swyddfeydd. 

·   Yr her o integreiddio TG presennol a goresgyn protocolau diogelwch.

·   Gallu staff cefnogi e.e. Adnoddau Dynol i gefnogi cymhlethdod y newid.

·   Gallu staff mewn sefydliadau nad ydynt yn gyd-derfynol i gael eu cynrychioli ar nifer o gyfarfodydd cydweithio.

 

4. Y modelau llywodraethu ac atebolrwydd a fabwysiedir pan fydd cydweithio'n digwydd

 

4.1 Mae gan sefydliadau yng Nghonwy hanes hir o ddatblygu cynlluniau cydweithio y tu mewn a’r tu allan i’r Sir. Gall cydweithio ddod o budd sylweddol a gallant ymateb i broblemau cymhleth sy’n wynebu cymunedau, na all unrhyw sefydliad unigol fynd i’r afael â nhw’n effeithiol wrth weithio’n unigol. Gallant gynnig hyblygrwydd, arloesi ac adnoddau ariannol a dynol atodol i helpu datrys problemau a darparu canlyniadau a rennir.

 

4.2 Serch hynny, nid yw cydweithio yn rhwydd a gall gynnwys risgiau sylweddol. Gall gweithio ar draws terfynau sefydliadol a daearyddol achosi cymhlethdod ac amwysedd a all greu dryswch a gwanhau atebolrwydd.

 

4.3 Yr allwedd i gydweithio llwyddiannus yw sefydlu llywodraethu da, a ddiffinnir fel y “broses o wneud penderfyniadau a’r broses o weithredu penderfyniadau”. Gall cyflwyno trefniadau Cydweithio clir a chyson ostwng cymhlethdod cydweithio.

 

4.4 Mae Conwy wedi sefydlu’r Pecyn Llywodraethu Cydweithio, sy’n cynnwys canllawiau, arfau a thempledi y gellir eu defnyddio ar bob cam o oes y cynllun cydweithio, o ystyried cyflwyno gwaith ar y cyd newydd, adolygu trefniadau cydweithio presennol, i gydweithio presennol.

 

4.5 Cynhyrchwyd y pecyn hwn i helpu sefydliadau sy’n cydweithio yng Nghonwy i sicrhau bod gan bob cynllun cydweithio maent yn rhan ohonynt drefniadau llywodraethu da. Mae’n cynnig sail ar gyfer archwilio’r materion allweddol sydd angen eu hystyried, i sicrhau ein bod yn mynd i’r afael, asesu, goresgyn neu osgoi unrhyw broblemau posibl mewn perthynas â gwaith ar y cyd.

 

4.6 Mae crynhoi’r wybodaeth ar gydweithio yng Nghonwy wedi arwain at ddatblygu ‘Matrics Cydweithio’ sy’n caniatáu arweinwyr cydweithio i ddiffinio eu cynlluniau cydweithio gan amrywio o waith ar y cyd ffurfiol iawn gyda chytundebau sy’n rhwymol yn gyfreithiol i gyfarfodydd anffurfiol gyda phartneriaid allanol eraill.

 

 

 

 

Mathau o Gydweithio

 

 

Cymera-dwyaeth

Dogfennau sydd angen

 

Llywodraethu / Rheoli

Ymrwymiad cyfreithiol

Cyfunol

Cyngor / Cabinet

Achos busnes

Cynllun Gwasanaeth

Cofrestr Risg

Cynnal

 

·         Cymysg o gyflogaeth yr Awdurdod Cynnal (Opsiwn Secondiad)*1

·         Awdurdod Cynnal yn Un Cyflogwr (Opsiwn Dirprwyo – Cydbwyllgor)*2

·         Contract am Wasanaethau (Opsiwn Masnachol)*3

·         Sefydliad Newydd (Opsiwn Corfforaethol)*4

·         Cymysgedd o gyflogaeth rhwng Cynghorau (Opsiwn Cydweithredol)*5

Cytundeb rhwymol yn gyfreithiol h.y. contract, cytundeb partneriaeth, Cytundeb Lefel Gwasanaeth, Cytundeb Adran 101

Cydlynu

Cabinet

Achos busnes

Cynllun darparu

Cofrestr Risg

Arwain

Bwrdd Rheoli / Grŵp Llywio

Cytundeb nad yw’n rhwymol yn gyfreithiol

Cydweithio

Cymerad-wyaeth Weithredol

Cais am grant

Dogfennau Prosiect / Rhaglen

Diffinio dyddiad gorffen

 

Bwrdd Prosiect

Bwrdd Rhaglen

Bwrdd Ariannu Strategol

Cytundeb cyfreithiol gyda darparwr grant / gwasanaeth

Rhwydwaith

Dim angen cymerad-wyaeth

TOR

Mynychu / cydlynu cyfarfodydd

Dim

 

 

4.7 Mae’r holl waith uchod wedi arwain at greu ‘Canllawiau Gweithredu Cydweithio’. Mae’r canllawiau hyn yn amlinellu’r camau y dylai swyddog yng Nghonwy eu dilyn wrth arwain ar y gwaith o sefydlu cynllun cydweithio gyda sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus ac yn ystyried yr arfer gorau a amlygir yn y dogfennau gwaith ar y cyd mae Conwy eisoes wedi’u cynhyrchu.

 

4.8 Dangosodd yr adolygiad ar gydweithio yng Nghonwy fod strwythurau llywodraethu cadarn ar waith ar gyfer oddeutu 90% o’n cynlluniau cydweithio a lle roedd problemau gyda llywodraethu, sefydlwyd cynlluniau gweithredu i gywiro hyn. Mae’r cynlluniau cydweithio hyn felly wedi creu baich rheoli pellach oherwydd yr angen i gynnwys Uwch Swyddogion a bod galwadau amser yn cyfyngu ar allu’r Swyddogion hyn i gyflawni hyn. Wrth i gynlluniau cydweithio newydd gael eu datblygu, bydd angen ystyried trefniadau llywodraethu’n ofalus er mwyn sicrhau y gall Uwch swyddogion o’r sefydliadau gymryd rhan.

 

4.9 Mae Swyddfa Archwilio Cymru hefyd yn gwneud gwaith dilynol ar y gwaith a wnaed o safbwynt gwaith ar y cyd ac mae ganddynt ddiddordeb penodol o ran gwirio a yw trefniadau cydweithio’r awdurdod yn gweithredu’n effeithiol i ddarparu gwell perfformiad a chanlyniadau.

 

 

 

5. Costau a manteision cyffredinol cydweithio i ddarparu gwasanaethau llywodraeth leol

 

5.1 Mae cronfa ddata cydweithio Conwy’n cynnwys amcanion pob cynllun cydweithio a’i fendithion disgwyliedig / rhai a wireddwyd yn enwedig yn nhermau canlyniadau i ddefnyddwyr.

 

5.2 Mae Conwy wedi cynnal adolygiad gwireddu bendithion cydweithio o bob un o’i 130+ o gynlluniau cydweithio i sicrhau eu bod wedi’u halinio â’r holl egwyddorion a amlinellir yn y Datganiad ar Gydweithio. Helpodd yr adolygiad hwn hefyd i sicrhau fod pob cynllun cydweithio yn cyflawni ei amcanion gwreiddiol ac yn gwneud gwahaniaeth o safbwynt darpariaeth gwasanaeth i ddefnyddwyr. Roedd yr adolygiad hefyd yn ystyried unrhyw ‘ anfanteision’ yn gysylltiedig a phob cynllun cydweithio a’r achosion lle credwyd fod yr anfanteision yn fwy na’r bendithion. Cafodd y cynlluniau cydweithio hyn eu craffu ymhellach a’u  diddymu fel bo’r angen.

 

5.3 Mae rhai cynlluniau cydweithio wedi arwain at well perfformiad o safbwynt Dangosyddion Perfformiad a darpariaeth gwasanaeth ac mae’r adolygiad wedi amlygu hyn. Y prif reswm dros hyn yw fod y cynlluniau cydweithio hyn yn seiliedig ar achosion busnes cadarn a gymeradwywyd o’r dechrau un.

 

5.4 Mae’r adolygiad o gydweithio yng Nghonwy wedi dangos fod 75% o’r cynlluniau cydweithio wedi cyflawni’r bendithion a ddisgwyliwyd o safbwynt arbedion adnoddau a gwell perfformiad. Y rheswm am hyn yw eu bod yn seiliedig ar achosion busnes cadarn a oedd yn dangos sut y byddai a sut y gallai’r bendithion gael eu gwireddu. Un esiampl o hyn yw Galw Gofal, sy’n wasanaeth monitro galwadau a gaiff ei rhedeg ar y cyd ag ALl eraill Gogledd Cymru. Gwaned arbedion ariannol o oddeutu £300k ers sefydlu’r gwasanaeth ar y cyd yn 2011 ac mae adborth gan ddefnyddwyr Gwasanaeth wedi dangos gwell bodlonrwydd cwsmeriaid o’i gymharu â’r gwasanaeth a gynhaliwyd yn unigol gan Gonwy.

 

5.5 Er mwyn rheoli effeithlonrwydd ac effaith y gwaith partneriaeth a thraws-sector, mae Conwy’n sicrhau bod adolygiad o bob gwaith ar y cyd yn digwydd unwaith y flwyddyn h.y. sicrhau bod y gwaith ar y cyd yn dal wedi’i alinio â’r egwyddorion a sicrhau eu bod yn cyflenwi’r bendithion a ragwelwyd yn wreiddiol a bod y gronfa ddata gydweithio yn cael ei diweddaru. Mae adroddiadau wedi’u cyflwyno i’r Pwyllgorau Craffu ynglŷn â’r adolygiad o gydweithio a thargedwyd craffu pellach at y cynlluniau cydweithio hynny lle mae canfyddiad fod problemau.

 

5.6 Mae’r broses hon wedi rhoi’r hyder i ni roi’r gorau i gydweithio lle’i bod yn amlwg nad yw’r bendithion yn cael eu gwireddu / nad ydynt yn hyfyw bellach. Rydym felly wedi diddymu’r Bartneriaeth Iechyd Meddwl gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Sir Ddinbych, Partneriaeth Gaffael Gogledd Cymru, Cydweithrediad Priffyrdd Conwy a Sir Ddinbych ac wedi rhoi’r gorau i waith paratoadol o fewn y Gwasanaethau Rheoleiddio.

 

Gobeithio y bydd ein sylwadau yn werthfawr i chi yn eich ystyriaethau.

 

Yn ddiffuant

 

 

 

 

 

 

Tim Pritchard

Rheolwr Moderneiddio Corfforaethol Dros Dro